Rhif y ddeiseb: P-06-1282

Teitl y ddeiseb: Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru

Geiriad y ddeiseb: Ar hyn o bryd, mae 2 yn Lloegr ac 1 yn yr Alban, ond dim un yng Nghymru – “gwlad beirdd a chantorion”.  Mae diffyg Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru yn fwlch yn ein bywyd diwylliannol, cenedlaethol.  Er bod y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn sefydliad rhagorol, nid yw eto’n lle sy’n helpu barddoniaeth i flodeuo. Dim ond Llyfrgell Farddoniaeth bwrpasol all fod yr archif ar gyfer rhywfaint o’n barddoniaeth hynaf, bod yn lle pererindod a thwf i’n beirdd a bod yn sefydliad sy’n pontio ein traddodiadau barddonol dwyieithog.

 

 


1.        Cefndir

Ar hyn o bryd, mae llyfrgell farddoniaeth genedlaethol ar gyfer y DU, sef y Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol, wedi’i lleoli yng Nghanolfan y South Bank yn Llundain[1]. Mae’r llyfrgelloedd a ganlyn hefyd wedi’u lleoli yn Lloegr: Llyfrgell Farddoniaeth y Gogledd, sydd wedi’i lleoli yn nhref Morpeth yn Northumberland; a Llyfrgell Farddoniaeth Manceinion. Yn ogystal, mae Llyfrgell Farddoniaeth yr Alban wedi’i leoli yng Nghaeredin.

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth drwy Siarter Frenhinol ym 1907, ac mae'n elusen gofrestredig ac yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cael cyllid refeniw gwerth £12.3 miliwn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru. Pwrpas Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb, fel y gallant ddysgu, ymchwilio a mwynhau. Llyfrgell adnau cyfreithiol ydyw, sy'n golygu bod ganddi'r hawl i gael copi o bob cyhoeddiad sy'n cael ei argraffu ym Mhrydain ac yn Iwerddon.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn ei hymateb i’r ddeiseb hon, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi cyfarfod â’r deisebydd. Gan fod gan y prosiect y potensial i fynd i’r afael â nifer o ymrwymiadau sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gynnig ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol. Hyd yn hyn, nid yw’r cynnig dan sylw wedi dod i law. 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Nid yw Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd, na Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd flaenorol, wedi ystyried cynnig ar gyfer Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Ffynhonnell: sgwrs ffôn gyda’r Llyfrgell Genedlaethol ar 31 Mai 2022